Ein stori ni
Mae Gyda’n Gilydd dros Newid yn fenter gymdeithasol ddeinamig sydd wedi’i gwreiddio mewn gweithredu ar lawr gwlad, datblygu cymunedol ac ymgyrchu. Rydym wedi tyfu o weithredu lleol i fod yn sefydliad cenedlaethol, sy’n hyrwyddo newid seiliedig ar le dan arweiniad y gymuned ledled Cymru.
Dechreuom yn Sir Benfro, lle daethom â chymunedau ynghyd i lunio gweledigaeth ar gyfer gweithredu lleol cryfach a mwy dyfeisgar. Yn 2020, llwyddom i sicrhau cyllid i gefnogi’r gwaith hwn, gan gydgynhyrchu strategaethau, cryfhau’r dystiolaeth a phrofi dulliau newydd o gefnogi llesiant cymunedol. Llwyddom i sicrhau cyllid pellach yn 2022. Ers hynny, mae ein gwaith wedi tyfu o'r lleol i'r rhanbarthol ac mae bellach yn genedlaethol ei gwmpas. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ac yn cydweithio ag eraill i droi syniadau da yn newid diriaethol, cynaliadwy.
Rydym yn dod â phobl ynghyd i gysylltu polisi, ymchwil, a gweithredu - gan wneud yn siŵr bod lleisiau cymunedol yn cael eu clywed gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a bod sefydliadau ar lawr gwlad yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu. Yn rhy aml, mae syniadau da’n mynd yn sownd ac nid ydynt yn cael eu gweithredu. Rydym ni’n gweithio i newid hynny.
Mae ein hymagwedd yn seiliedig ar rannu gwybodaeth, profiad a syniadau trwy:
Bartneriaethau a chydweithio
drwy ddod â chymunedau, llunwyr polisi ac ymchwilwyr at ei gilydd i gyd-greu atebion ar gyfer cymunedau cryfach ledled Cymru.
Ymchwil a thystiolaeth
trwy sicrhau bod ymchwil a gwerthuso yn sylfaen i bolisïau a chamau gweithredu da sy'n debygol o lwyddo.
Cynaliadwyedd ac arloesedd
trwy gefnogi prosiectau partneriaeth hirdymor dan arweiniad y gymuned sy'n creu newid parhaol.
Mae gweithredu dan arweiniad y gymuned yn ffynnu yng Nghymru, yn adeiladu ar ein hanes o gydgefnogaeth a hunaniaeth leol gref. Rydym yn credu pan fydd cymunedau’n arwain y ffordd, y gallwn leihau anghydraddoldeb, cryfhau cyfiawnder cymdeithasol, a helpu pobl i fyw'n dda.
Ein tîm

Jessie Buchanan
Cyfarwyddwr
Rwy’n sicrhau bod popeth a wnawn yn Gyda’n Gilydd dros Newid yn gwneud gwahaniaeth ac yn cael ei gydlynu gyda ein partneriaid niferus. Rwy’n credu yng ngrym cydweithio tuag at nod cyffredin gan mai perthnasoedd da sydd wrth wraidd datblygu cymunedol effeithiol. Rwy’n frwd dros ddod o hyd i atebion cynaliadwy i’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol sy’n hanfodol i les cymdeithas ac sy’n dylanwadu ar ein gallu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb sy’n ymwneud ag iechyd yn lleol ac yn fyd-eang.

Sue Denman
Chair of Directors
Rwy’n gweithio gyda’r Tîm i osod cyfeiriad Gyda’n Gilydd dros Newid a dylunio a gwerthuso prosiectau mewn partneriaeth ag eraill. Rwy’n frwd dros adeiladu pŵer a chryfder cymunedol i greu bywyd gwell i bawb. Mae angen ffordd newydd o feddwl am gyfoeth arnom – un sy’n cael ei dosbarthu’n fwy cyfartal ac sy’n ymwybodol o’r effeithiau y bydd ein gweithredoedd yn eu cael ar genedlaethau’r dyfodol. Mae gen i gefndir proffesiynol mewn ymchwil a datblygu ym maes iechyd y cyhoedd sy'n cwmpasu’r sectorau preifat a chyhoeddus. Athro Emeritws ym Mhrifysgol Caerdydd.

Amy Nicholass
Community-led Action Research Facilitator
Fi yw’r Hwylusydd Ymchwil Gweithredu Dan Arweiniad y Gymuned llawn amser ar gyfer Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol Cymru Wledig. Rwy’n cefnogi cymunedau ledled Cymru i gynyddu eu gwybodaeth am bynciau sy’n bwysig iddynt fel y gallant weithredu a gwneud newid. Mae fy nghefndir mewn rheoli prosiectau a digwyddiadau a chydlynu rhwydweithiau mewn pynciau sy'n seiliedig ar gynaliadwyedd a gwyddor amgylcheddol. Ynghyd â gwirfoddolwyr eraill rwy'n mwynhau rhedeg Caffi Trwsio llwyddiannus lle rwy'n byw.