Gwell Gyda’n Gilydd - Creu rhwydweithiau a chynghreiriau dros gymunedau cryfach yng Nghymru
Amser: 10:00 – 15:30
Dyddiad: 11 Mehefin 2025
Lleoliad: Urban Kitchen, Abertawe
Digwyddiad i grwpiau a sefydliadau cymunedol; sefydliadau’r trydydd sector, y sector cyhoeddus a’r sector preifat; partneriaethau a byrddau.
Mae sefydliadau sy’n gweithio’n wyneb yn wyneb â chymunedau yn adrodd ei bod yn mynd yn fwyfwy anodd gwneud gwahaniaeth i les dinasyddion, oherwydd maint yr heriau sy’n eu hwynebu. Nid yw erioed wedi bod yn bwysicach cydweithio’n agos, rhannu gwybodaeth ac archwilio ffyrdd o sicrhau bod y cysylltiadau rhwng polisi, tystiolaeth a gweithredu yn gadarn ac yn arwain at newid cynaliadwy ac effeithiol.
Yn y cyfarfod agored hwn, daw pobl ynghyd i edrych ar atebion ymarferol a chyraeddadwy i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n sefyll yn erbyn cynnydd. Byddwn yn trafod y cwestiynau canlynol:
- A oes gweledigaeth a blaenoriaethau cyffredin y gallwn ddod at ein gilydd o’u plaid, fel ein bod yn symud tua’r un cyfeiriad cyffredinol?
- Beth yw amcanion y nifer cynyddol o rwydweithiau yng Nghymru, a sut maen nhw’n bwriadu eu cyflawni? A oes bylchau y gallai partneriaethau eu llenwi?
- Sut gallwn sicrhau bod y corff cynyddol o dystiolaeth yn cael ei gydgynhyrchu, yn cael ei gyflwyno i lunwyr polisi ac yn cael ei roi ar waith?
- Sut allai cynghrair genedlaethol eang gyflawni trosglwyddo gwybodaeth ac ymateb i’r angen am lwyfan i ysgogi newid?
Bydd cyflwyniadau allweddol yn gosod y cyd-destun, a bydd tair gweithdy (yn cael eu rhedeg ddwywaith) ar y pynciau canlynol:
- Cydgynhyrchu ymchwil ac arfarnu
- Rhwydweithiau a’u cyfraniad at les mewn cymunedau lle
- Offer a syniadau i’n helpu i ddeall cymhlethdod
Bydd cyfle ym mhob gweithdy i glywed am rai o’r mentrau cyffrous sy’n mynd rhagddynt yng Nghymru, ac i ystyried sut y gall cynghrair a rhwydweithiau helpu i ysgogi newid a chynnydd.
Bydd sesiwn olaf y diwrnod yn canolbwyntio ar ffurf a swyddogaeth cynghrair a allai fynd i’r afael â’r bylchau systemig sy’n rhwystro cymunedau rhag cael effaith.