Chwe phrosiect yn derbyn cyllid drwy ‘Gronfa Ymchwil dan Arweiniad y Gymuned - Cymru Wledig LPIP Rural Wales’, sy’n cael ei darparu gan Gyda’n Gilydd dros Newid

Mae ‘Cronfa Ymchwil dan Arweiniad y Gymuned - Cymru Wledig LPIP Rural Wales’, sy’n cael ei darparu gan Gyda’n Gilydd dros Newid, wedi dyfarnu cefnogaeth i chwe phrosiect newydd ar draws ardaloedd gwledig Cymru. Bydd pob grŵp yn derbyn hyd at £20,000 ynghyd â chefnogaeth academaidd wedi’i theilwra i gynnal ymchwil a gynlluniwyd gan y gymuned ar faterion sy’n bwysig yn lleol. £20,000 ynghyd â chefnogaeth academaidd wedi’i deilwra i gynnal ymchwil a gynlluniwyd gan y gymuned ar faterion sy’n bwysig yn lleol.

Mae’r rownd hon yn adeiladu ar yr alwad flaenorol ar gyfer Ymchwil dan Arweiniad y Gymuned, gan alluogi mwy o gymunedau gwledig i gasglu tystiolaeth, ennill mewnwelediad ac amlinellu camau ymarferol sy’n gysylltiedig â phedair thema’r rhaglen: adeiladu economi adfywiol; cefnogi’r trawsnewid i sero net; adnewyddu diwylliannol; a lles yn y lle.

Y chwe phrosiect llwyddiannus yw:

  1. Cwmni’r Frân Wen – CARREG (Bangor)
    Bydd CARREG yn archwilio’r pwysau iechyd meddwl sy’n wynebu pobl ifanc yn y sector amaethyddol, gan gynnwys straen economaidd, newid demograffig, pwysau gwaith ac unigrwydd. Bydd y prosiect yn creu gofod ar gyfer sgyrsiau gonest drwy ddulliau creadigol, gan helpu’r gymuned i gydnabod heriau cyffredin a chefnogi ei gilydd. Nod y gwaith yw cryfhau cydlyniant, codi proffil profiadau gwledig mewn trafodaethau cenedlaethol a gosod y sylfeini ar gyfer cefnogaeth hirdymor dan arweiniad y gymuned.
  2. Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen – Ailddychmygu Llandysul (Llandysul).
    Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i sut y gellir cysylltu diwylliant, economi a lles yn well i gefnogi adfywiad Llandysul. Bydd yn archwilio sut mae trigolion yn defnyddio canol y dref, rôl diwylliant Cymreig wrth ysgogi mentergarwch a sut y gall trafnidiaeth, cysylltedd digidol a gofodau cynhwysol gryfhau cyfranogiad. Bydd yr ymchwil yn datblygu sgiliau lleol ac yn darparu tystiolaeth i lunio strategaeth gynhwysol a chynaliadwy ar gyfer dyfodol y dref.
  3. Tai, Iaith a Hinsawdd dan Arweiniad y Gymuned (Dyffryn Peris)
    Bydd Partneriaeth Dyffryn Peris yn archwilio ymatebion cymunedol i’r heriau tai, iaith a hinsawdd sy’n effeithio ar yr ardal. Bydd y prosiect yn edrych ar fodelau megis ymddiriedolaethau tir cymunedol, cartrefi carbon isel a dulliau sy’n diogelu’r Gymraeg. Bydd yn casglu tystiolaeth i ddylanwadu ar bolisi cynllunio, dysgu o brosiectau tebyg ledled Cymru a chefnogi datblygiad atebion sydd wedi’u gwreiddio mewn anghenion lleol.
  4. PEACE CIC – Hinsawdd a Chymuned (Hwlffordd)
    Bydd PEACE yn gweithio gyda chymunedau ymfudwyr a chymunedau mwyafrif byd-eang i ddeall eu profiadau o weithredu ar newid hinsawdd a chynaliadwyedd yn Sir Benfro. Bydd y prosiect yn nodi rhwystrau megis iaith, mynediad at wybodaeth a diffyg enghreifftiau diwylliannol perthnasol, ac yn archwilio pa wybodaeth, sgiliau a chefnogaeth fyddai’n galluogi cyfranogiad llawnach. Bydd y canfyddiadau’n helpu i lunio prosiectau a pholisïau amgylcheddol mwy cynhwysol, tra’n adeiladu hyder a chysylltiadau o fewn cymunedau.
  5. Siop Griffiths Cyf (Yr Orsaf) – Systemau Bwyd Lleol Cynaliadwy (Dyffryn Nantlle)
    Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i sut y gall cynhyrchwyr ffrwythau a llysiau lleol gyflenwi bwyd iach, fforddiadwy i drigolion mewn ffordd gynaliadwy. Bydd Yr Orsaf yn gweithio gyda ffermydd lleol i archwilio partneriaethau bwyd cynaliadwy, cynlluniau talebau Cychwyn Iach a modelau presgripsiwn cymdeithasol. Mae’r ymchwil yn cynnwys deall arferion bwyd, gwella mynediad a phrofi sesiynau coginio a chadw bwyd, gyda chefnogaeth fforwm bwyd cynaliadwy dan arweiniad y gymuned.
  6. Eryri-Bywiol Cyf / Snowdonia-Active – Partneriaeth Dalgylch Llyn Padarn (Caernarfon)
    Bydd Eryri-Bywiol yn datblygu dull cydweithredol, seiliedig ar ddalgylch, i reoli Llyn Padarn. Bydd y prosiect yn dod â chyrff statudol, grwpiau cymunedol a thrigolion ynghyd i nodi blaenoriaethau hamdden ac amgylcheddol. Bydd yn sefydlu partneriaeth dalgylch, mapio problemau ac yn cynhyrchu llwybr strategol ar gyfer rheolaeth, gyda chydrannau posibl megis parthau hamdden, cynllun diogelwch dŵr a strategaeth ddehongli.


Bydd y prosiectau hyn yn rhedeg tan haf 2026 ac yn cyfrannu at dystiolaeth newydd, mewnwelediad a gweithredu dan arweiniad y gymuned ar draws Cymru wledig.

Mae Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn cael ei ariannu gan UKRI drwy ESRC, AHRC ac Innovate UK.

Swyddi Tebyg