Gyda’n Gilydd dros Newid yn lansio Cyfres Gweithdai a Seminarau Rhaglen Ymchwil a Arweinir gan y Gymuned Cymru Wledig LPIP.

Mae Cymru Wledig LPIP Rural Wales, mewn cydweithrediad â Gyda’n Gilydd dros Newid, yn cyflwyno Cyfres o Weithdai a Seminarau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer unrhyw un sydd mewn cymuned neu sy'n gweithio gyda chymunedau a hoffai ddefnyddio gwaith ymchwil fel cyfrwng ar gyfer gweithredu. Does dim angen unrhyw gymhwyster addysg neu sgiliau penodol i gymryd rhan.

“Mae cymunedau ar draws Cymru wledig eisoes â llawer iawn o wybodaeth a sgiliau, ac mae’r rhaglen hon yn adeiladu ar y sylfaen honno – gan feithrin hyder, cynnig lle i ddysgu gan ein gilydd, ac i greu rhwydwaith o sefydliadau a all gefnogi ei gilydd trwy ddefnyddio gwaith ymchwil i sbarduno newid. Rydyn ni wedi dylunio'r gyfres i ganiatáu pobl i’w chwblhau pryd bynnag sy’n gyfleus iddyn nhw, mewn ffordd sy'n gweddu i’w bywydau a’u hamserlenni prysur” Jessie Buchanan, Cyfarwyddwr, Gyda’n Gilydd dros Newid.

Nod Rhaglen Ymchwil a Arweinir gan y Gymuned, Cymru Wledig LPIP Rural Wales, yw galluogi cymunedau gwledig i gasglu ac i ddadansoddi tystiolaeth i fynd i'r afael â heriau ac anghenion polisi sy’n bwysig iddyn nhw yn lleol. Bydd cyfranogwyr cymunedol yn gweithio gyda mentor academaidd sydd wedi’u penodi iddyn nhw ac yn dylunio ac yn cynnal prosiect ymchwil ar destun y maen nhw wedi’i ddewis, gan gasglu a dadansoddi data a chytuno ar gamau dilynol. Gallai canlyniadau’r gwaith ymchwil gael eu defnyddio i greu atebion i’w defnyddio yn y gymuned, i gefnogi ceisiadau am gyllid allanol, i wneud achos dros fuddsoddi neu dros wneud newidiadau polisi i lywodraeth leol neu genedlaethol neu i asiantaethau cyhoeddus.

Mae Gyda’n Gilydd dros Newid wedi gweld bod cymunedau ledled Cymru Wledig yn awyddus i edrych ar y manteision posibl o ddefnyddio gwaith ymchwil. Mewn galwad cyllid ddiweddar, gwnaeth 47 o grwpiau cymunedol gais trwy’r LPIP am grant i gynnal gwaith ymchwil wedi’i arwain gan y gymuned, ond dim ond 6 allai gael eu hariannu. Ein gobaith yw y gall y gyfres addysg a hyfforddiant hon, ynghyd â chyfleoedd i ddysgu gan gymunedau eraill, gefnogi cymunedau ledled Cymru i adeiladu ar eu sgiliau ymchwilio eu hunain.

Mae'r sesiynau ar-lein a’r sesiynau wyneb yn wyneb sydd wedi'u hariannu'n llawn yn gyfle i ddysgu am beth yw ymchwil gweithredol sydd wedi’i arwain gan y gymuned, i feithrin sgiliau sylfaenol ar gyfer ymchwilio a rheoli prosiectau mewn lleoliad cymunedol, a’r hyn y gall cydweithio gyda academyddion a llunwyr polisi ei olygu i'ch cymuned.

Mae’r seminarau amser cinio ar-lein yn cynnwys nifer o siaradwyr gwadd sydd yn arbenigo mewn gwahanol agweddau ar waith ymchwil wedi’i arwain gan y gymuned. Mae'r sesiynau’n rhad ac am ddim a gellir archebu lle yn y sesiynau’n unigol.

Bydd rhai gweithdai wyneb-yn-wyneb diwrnod o hyd yn cael eu cynnal mewn gwahanol rannau o Gymru hefyd. Mae'r rhain yn gyfle i gamu allan o'r amgylchedd gwaith prysur ac i ganolbwyntio ar feithrin sgiliau ymchwilio, e.e. siliau cyfweld a Newid Mwyaf Arwyddocaol. Caiff y rhai sy’n ymuno yn y sesiynau hyn eu hariannu'n llawn.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddyddiadau seminarau a gweithdai newydd, gallwch gofrestru ar-lein i gael negeseuon am y gyfres seminarau.

Bydd Gyda’n Gilydd dros Newid yn recordio pob sesiwn sy'n addas i’w chyhoeddi ar sianel Vimeo.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech awgrymu thema ar gyfer sesiwn, cysylltwch ag Amy Nicholass a Jessie Buchanan trwy anfon neges i post@tfc.cymru.


Swyddi Tebyg