Cymru Wledig LPIP Rural Wales - Ymchwil Gweithredu a Arweinir gan y Gymuned

Mae ein hymchwil gweithredol sydd yn cael ei arwain gan y gymuned yn anelu at alluogi cymunedau gwledig i gasglu a dadansoddi tystiolaeth er mwyn mynd i’r afael â heriau a chyfleoedd polisïau a nodwyd yn lleol. Gan weithio gyda mentor academaidd penodedig, mae cyfranogwyr y gymuned yn cynllunio ac yn cyflawni prosiect ymchwil o’u dewis, gan gasglu a dadansoddi data a chytuno ar weithredoedd dilynol. Rydym yn rhagweld y gellid defnyddio canlyniadau’r ymchwil i ddod o hyd i atebion y gellir eu cyflwyno o fewn y gymuned, i gefnogi ceisiadau am gyllid allanol, neu i wneud achos dros fuddsoddiad neu newidiadau polisi i lywodraeth leol neu genedlaethol, neu i asiantaethau cyhoeddus

Mae cam cyntaf yr ymchwil wedi cynnwys gweithio mewn pum cymuned beilot yn y lleoliadau canlynol. Cynhyrchodd pob prosiect adroddiad sydd i’w weld isod, ac mae manylion pellach wedi'u storio ar Hwb Data LPIP - sy'n cael ei lansio cyn bo hir.

Yn yr ail gam, mae Cymru Wledig LPIP Rural Wales wedi ariannu chwe phrosiect gweithredu arall dan arweiniad y gymuned, a ddewiswyd trwy gystadleuaeth a oedd yn agored i unrhyw gymuned yng nghefn gwlad Cymru.

Corwen (mewn partneriaeth â Phartneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych)

Ardal Biofyd Dyfi (mewn partneriaeth â Biofyd Dyfi)

Y Drenewydd

Penrhyn Dewi

Yn dod yn fuan

Trawsfynydd

Mae'r prosiect yn parhau


Yn yr ail gam, mae Cymru Wledig LPIP Rural Wales wedi cyllido chwe phrosiect gweithredu cymunedol ychwanegol, a ddewiswyd trwy gystadleuaeth a oedd ar agor i unrhyw gymuned yng Nghymru Wledig. Bydd adroddiadau'r prosiectau hyn ar gael yma erbyn yr haf.

Mae'r alwad Grant ar gyfer Cyfnod 2 Ymchwil Gweithredu dan Arweiniad y Gymuned bellach wedi cau.
Cliciwch yma am yr holl gynnwys sy'n ymwneud â'r alwad Grant