Cymru Wledig LPIP Rural Wales - Ymchwil Gweithredu a Arweinir gan y Gymuned


A oes rhywbeth fel thema, achos neu syniad yn eich cymuned yr hoffech wybod mwy amdano? 

Ydych chi’n pryderi am archwilio pynciau a fydd yn gwneud newid cadarnhaol I'ch cymuned? 

Y cyllid sydd ar gael: £20,000 ar gyfer 6 phrosiect yng nghefn gwlad Cymru

Rydym yn awr yn gwahodd ceisiadau am gronfa o hyd at £20,000 i gymuned ei defnyddio i archwilio rhywbeth a chasglu gwybodaeth am bwnc sy'n bwysig i'r gymuned honno a fyddai'n helpu i wneud gwahaniaeth yn lleol.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael:

  • hyd at £20,000 i gyflawni'r cynllun.
  • Mewnwelediad, arbenigedd a chefnogaeth gan fentor academaidd.
  • hyfforddiant ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rheoli prosiect ymchwil, gan gynnwys casglu gwybodaeth megis dylunio arolygon, arwain cyfweliadau, mapio lleoliadau neu gasglu samplau amgylcheddol. 

Mae'r cyllid a'r gefnogaeth fentora ar gael o Fedi 2025 tan Fehefin 2026.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos, 29 Awst 2025.

Ffurflenni cais:

English
Cymraeg

Gweminar Galwadau Grant:

Cliciwch ar yr eicon olwyn ar waelod ochr de y sgrin, yna cliciwch ar 'gosodiadau' yna ar 'sain' i ddewis rhwng Saesneg a Chymraeg. Os ydych chi'n gwylio'r fideo hwn ar ffôn symudol, efallai y bydd angen i chi glicio ar y saeth sy'n wynebu'r chwith ar waelod dde'r sgrin chwarae i weld yr eicon olwyn i ddewis gosodiadau a'r dewis o sain Cymraeg.

Cwestiynau cyffredin:

Mae'r dudalen Cwestiynau Cyffredin lawn i'w gweld yma.

Mae Cronfa Ymchwil Gweithredu dan Arweiniad Cymunedol Cymru Gyfan LPIP yn gyfle cyllido gwerth £150,000 ar gyfer chwe lleoliad ar draws Cymru wledig. Fe'i cynlluniwyd i gefnogi prosiectau ymchwil ar lefel gymunedol gyda £20,000 o gyllid i bob cymuned, ynghyd â chefnogaeth gan fentor academaidd a hyfforddiant ychwanegol.  

Nod y gronfa yw cefnogi dinasyddion mewn lleoliad i gael gwybodaeth am bwnc sy'n bwysig i'w cymuned a ac a allai wneud gwahaniaeth yn lleol. Y themâu y mae'r cyllid hwn yn eu cefnogi yw:  

  • Adeiladu Economi Adfywiol 
  • Cefnogi'r Pontio i Sero Net 
  • Grymuso Cymunedau ar gyfer Adferiad Diwylliannol 
  • Gwella Lles yn ei Le 

Darperir y gronfa gan Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI), Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), y Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), ac Innovate UK fel rhan o Bartneriaeth Polisi a Arloesi Lleol Cymru Wledig, dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth.

Mae'r ffenestr ymgeisio yn agor ar 15 Mehefin 2025. Gellir cyflwyno ffurflenni cais i'w hystyried erbyn hanner nos ar 29 Awst 2025.

Pwnc neu thema y mae dinasyddion sy'n byw mewn lle eisiau gweithredu arno ac sy'n cyd-fynd â phedair thema LPIP Cymru Wledig.

Y peth pwysig am ymchwil gweithredu yw bod y dystiolaeth a gesglir am bwnc yn ymwneud â dibenion gweithredu i wneud newid, yn hytrach na chasglu gwybodaeth nad yw wedyn yn cael ei defnyddio, ac nad oes neb yn gwybod amdani. Ar ôl i'r dystiolaeth gael ei chasglu a'i dadansoddi, mae cynllun gweithredu yn cael ei greu ar gyfer camau nesaf beth i'w wneud â’r wybodaeth newydd hon, oherwydd mae grym mewn gwybodaeth. Gallai hyn gynnwys gwneud cais am gyllid neu siarad â’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau ar lefel leol neu genedlaethol, neu ymgysylltu â phobl leol neu ymwelwyr nad ydynt yn rhan o'r ymchwil.

Mae LPIP Cymru Wledig yn edrych ar bedair thema allweddol a amlinellir yn fanylach isod y byddai'r rhan fwyaf o'r pynciau yn dod o danynt yn naturiol, ond os nad ydych yn siŵr a yw eich pwnc yn berthnasol, cysylltwch â ni cyn y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio.

Adeiladu Economi Adfywiol 

Mae'r thema hon yn cynnwys syniadau ar gyfer hyrwyddo 'twf' ac 'arloesi' mewn cyd-destun gwledig a sut i sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan y gweithlu. Mae'n cynnwys cynorthwyo a datblygu busnes ac entrepreneuriaeth ar draws sectorau gan gynnwys bwyd-amaeth, twristiaeth, ynni, gweithgynhyrchu a gwasanaethau, gyda'r nod o fynd i'r afael â 'chanol coll' cwmnïau canolig eu maint yng Nghymru wledig, gan gynyddu cynhyrchiant, codi lefelau cyflogau, a helpu i gadw pobl ifanc mewn cymunedau gwledig.

Cefnogi'r Pontio i Sero Net 

Mae'r thema hon yn cynnwys newidiadau a ragwelir yn y defnydd o dir gwledig ac arferion ffermio (e.e. coedwigo, cynnydd mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy, rheoli tir ar gyfer gwasanaethau ecosystem), a newidiadau cysylltiedig mewn mathau o gynhyrchu incwm yn yr economi wledig, yn ogystal â’r effaith ar gymunedau gwledig, busnesau a darpariaeth gwasanaethau yn sgil cael gwared ar drafnidiaeth ac ynni sy'n seiliedig ar garbon. Mae cyfleoedd ar gyfer arloesi i gefnogi ymddygiadau ac arferion cynaliadwy hefyd yn cael eu cynnwys.

Grymuso Cymunedau ar gyfer Adferiad Diwylliannol 

Mae'r thema hon yn cynnwys cynnal cymunedau â’r mwyafrif o bobl yn siarad Cymraeg, a hunaniaethau a diwylliannau gwledig lleol ehangach, ac ymgorffori cynnwys poblogaethau gwledig amrywiol mewn datblygu lleol. Mae'n cynnwys cyfraniad diwylliant a threftadaeth wledig yr iaith Gymraeg tuag at gefnogi twf economaidd cynhwysol a chynaliadwy.

Gwella Lles yn ei Le 

Mae'r thema hon yn cynnwys materion sy'n ymwneud â thlodi, anghydraddoldeb ac amddifadedd; iechyd a gofal; tai; a mynediad at wasanaethau – gan gynnwys deall prosesau sy'n siapio’r materion hyn (e.e. penderfynyddion cymdeithasol iechyd, allgáu ariannol, ac ati), effeithiau penderfyniadau polisi (e.e. rhesymoli gwasanaethau cyhoeddus) ac archwilio arloesedd mewn polisi ac ymarfer i wella lles.

Gallwch, gall ymgeiswyr gyflwyno sawl cais os ydynt ar gyfer syniadau am brosiectau ymchwil gwahanol. Fodd bynnag, rhaid i bob prosiect fodloni'r meini prawf cymhwysedd a dangos ei fod yn cyd-fynd yn amlwg â nodau Ymchwil Gweithredu a arweinir gan y Gymuned LPIP Cymru Wledig.

£20,000 fesul cymuned ar gyfer uchafswm o chwe chymuned ledled y Gymru wledig. Mae'r £20,000 yn cynnwys dyraniad o £5000 ar gyfer cymorth prosiect sefydliadol gan Gyda’n Gilydd Dros Newid.

Gall unigolyn sy'n cynrychioli sefydliad corfforedig yn y gymuned sydd â mynediad at gyfrif banc wneud cais ar ran cymuned mewn lleoliad penodol.

Mae cymuned yn yr achos hwn yn cyfeirio at gymuned yng nghefn gwlad Cymru mewn lleoliad neu le, a gall gynnwys cymunedau o ddiddordeb o'r tu mewn i'r lle hwnnw. Ystyr Cymru Wledig yw Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy, Sir Benfro, Powys a Bro Morgannwg. 

Mae'r cyfle yn agored i gymunedau sy’n siarad Saesneg, Cymraeg, yn ddwyieithog neu’n amlieithog.

O ganlyniad i brofiadau'r pum cymuned a gefnogwyd i gynnal ymchwil gweithredu wedi’i arwain gan y gymuned yng ngham 1, rydym yn argymell bod gan bob prosiect y canlynol:

  • Tîm Cynllunio: grŵp o wirfoddolwyr (sy'n gallu dewis gwario rhywfaint o'r gronfa i dalu am eu hamser i fynychu cyfarfodydd cynllunio neu dalu am y teithio a'r gynhaliaeth ar gyfer cyfarfodydd cynllunio) sy'n dod at ei gilydd i weithio gyda'r mentor academaidd i benderfynu ar y cwestiwn a'r fethodoleg ymchwil ac i benderfynu ar bwy maent am ddylanwadu gyda’r canfyddiadau.
  • Cydlynydd Ymchwil Cymunedol (y gellir ei gyflogi o dan gontract cyfnod penodol llawrydd a delir o'r gronfa £20,000, neu gall rhan o'r gronfa fynd tuag at gyfran o gyflog rhywun sydd eisoes mewn swydd mewn sefydliad lleol fel y gellir neilltuo rhywfaint o'u hamser i gydlynu'r ymchwil). Bydd angen rhywun i gefnogi’r cydlynydd os ydynt yn newydd i sefydliad yn y gymuned, neu’n aelod o staff presennol sy'n newydd i ymchwilio neu reoli gwirfoddolwyr, felly bydd angen peth amser ar gyfer rheoli/goruchwylio'r rôl hon gydag arweiniad gan Hwylusydd Ymchwil Gweithredu a arweinir gan y Gymuned LPIP Cymru Wledig. Am enghraifft o Ddisgrifiad Rôl Llawrydd Cydlynydd Ymchwil Cymunedol o gam 1, gweler adnoddau'r wefan.
  • Tîm Cyflawni: gallai hyn fod yn Gydlynydd Ymchwil Cymunedol yn ogystal ag ymchwilwyr gweithredu/cymunedol y maent yn eu cydlynu. Bydd yr ymchwilwyr yn cael hyfforddiant ar sut i gasglu’r dystiolaeth a gwneud synnwyr o'r hyn maen nhw'n ei ddarganfod a sut i'w gyflwyno i apelio at y bobl maent am ddylanwadu arnynt. Po fwyaf o ymchwilwyr sydd gennych, y mwyaf o dystiolaeth y byddwch chi'n gallu ei chasglu a meithrin gallu’r gymuned i gynnal prosiectau ymchwil pellach y tu hwnt i'r pwnc hwn. Gall yr ymchwilwyr weithio’n wirfoddol neu dderbyn peth o'r gronfa am eu hamser yn casglu'r dystiolaeth a'i dadansoddi a'i chyflwyno a/neu ar gyfer eu teithio a'u cynhaliaeth.

Byddwn yn disgwyl y canlynol gan yr ymgeiswyr hynny sy'n llwyddiannus:

  • Yswiriant i unrhyw staff a gwirfoddolwyr sy'n ymwneud â'r prosiect. Efallai y bydd gan sefydliad yn y gymuned yswiriant ar gyfer gwirfoddolwyr eisoes a gallent fod yn rhan o'r tîm cynllunio a chyflawni ar gyfer y prosiect.
  • Y gallu i gynnal a rheoli'r gronfa a'r gyllideb gyda chefnogaeth gan dîm LPIP. Gallai hyn fod ar ffurf cyfrif banc neu gyfrif undeb credyd yn enw sefydliad cymunedol ynghyd â rhywun i reoli taenlen gyllideb a nodi pryd mae gwariant wedi digwydd yn erbyn y gyllideb y cytunwyd arni a chadw derbynebau ac anfonebau yn ddiogel i'w hanfon at y tîm LPIP.
  • Cwblhau proses ddiwydrwydd dyladwy syml i sicrhau bod gennych y gallu i reoli'r gronfa a'r prosiect. Hoffem weld eich dogfennau llywodraethu.
  • Cynnal asesiadau risg ar gyfer holl weithgareddau perthnasol y prosiect gyda chefnogaeth y tîm LPIP. Os nad oes gennych sefydliad cymunedol fel rhan o'r tîm sydd â phrofiad gydag asesiadau risg, gall y tîm LPIP roi rhestrau gwirio ac arweiniad i chi, ond bydd angen rhywun arnoch sy'n gallu gwneud y rhain cyn y gellir cynnal unrhyw ymchwil i sicrhau bod pawb yn cael eu cadw'n ddiogel.
  • Adrodd ar y Prosiect: bydd hyn yn golygu cofnodi gwariant ariannol ac anfonebau llai manwl a anfonir gyda thystiolaeth o dderbynebau yn erbyn y gyllideb yn ogystal â dangos sut y cafodd yr arian effaith yn lleol, a all gynnwys adroddiad cryno byr am sut y defnyddiwyd yr arian neu ddulliau fel recordiadau sain neu fideo neu ddarnau celf.
  • Adroddiad Prosiect Ymchwil Gweithredu: o'r ymchwil a gynhaliwyd, gydag arweiniad gan fentor academaidd.

Cadw derbynebau ac anfonebau sy'n gysylltiedig â'r gyllideb am 3 blynedd ar ôl cau'r prosiect. 

Rheoli:

  • Amser staff ar gyfer Cydlynydd Ymchwil a'u goruchwyliaeth/rheolwr.
  • Costau gorbenion sefydliad trydydd sector sy'n gysylltiedig â chyflawni'r prosiect ymchwil.
  • Teithio a chynhaliaeth i ymchwilwyr a Chydlynydd Ymchwil.
  • Costau hyfforddi o hyfforddiant allanol y tu allan i raglen ehangach LPIP Cymru Wledig.

Trefniadaeth:

  • Cymorth ymgynghori/technegol i'ch helpu i gynnal yr ymchwil neu ddadansoddi neu gyflwyno'r canfyddiadau.
  • Costau tanysgrifiadau ar-lein i alluogi'r ymchwil fel Dropbox, Microsoft Forms neu Canva.
  • Talebau i bobl sy'n ymateb i arolygon neu'n cymryd rhan mewn cyfweliadau. 
  • Costau teithio i ymweld â chymunedau eraill i ddysgu oddi wrthynt neu gynorthwyo pobl i gyrraedd digwyddiad 

Digwyddiadau:

  • Gweithdai, digwyddiadau ar gyfer ymchwilwyr a'r gymuned ehangach
  • Llogi lle ar gyfer cyfarfodydd cynllunio prosiect a hyfforddiant  
  • Lluniaeth ar gyfer digwyddiadau, cyfarfodydd neu hyfforddiant 
  • Cyfathrebu, post, deunydd ysgrifennu, argraffu a dosbarthu
  • Offer a deunyddiau
  • Gwasanaethau dehongli a chyfieithu ar gyfer digwyddiadau neu daflenni, cyfweliadau ac ati. 
  • Gweithgareddau sy'n bodoli eisoes a gwaith sy’n digwydd yn barhaus
  • Costau a ysgwyddwyd cyn cymeradwyo'r grant
  • Treuliau na chytunwyd arnynt
  • Prosiectau sy'n canolbwyntio'n unig ar ddatblygu neu ddarparu cynnyrch neu wasanaeth
  • Costau cyfalaf (h.y. seilwaith)
  • Mae unrhyw fanylion personol y mae'n rhaid eu casglu ar gyfer y prosiect i'w casglu a'u storio yn unol â rheoliadau GDPR at ddibenion ymchwil yn unig.
  • Dylid cyfleu manylion y gofynion cyfreithiol ar gyfer sut mae data’n cael ei ddefnyddio a'i storio at ddibenion ymchwil yn glir i’r rhai sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil.
  • Mae angen dilyn y canllawiau a nodir yng Nghynllun Rheoli Data LPIP wrth storio a thrin data.
  • Bydd eich mentor academaidd penodedig yn trafod hyn gyda chi ac yn sicrhau bod gweithdrefnau priodol ar waith.

Na, nid oes angen arian cyfatebol.

Os ydych chi'n ymgeisydd o sefydliad trydydd sector presennol, efallai yr hoffech gynyddu gwerth ac effaith y gronfa £20,000 trwy roi adnoddau fel amser staff, cymorth gweinyddol, trafnidiaeth os mai chi sy’n gyfrifol amdano, arlwyo os mai chi sy’n gyfrifol amdano, neu le i'r grŵp cynllunio gyfarfod am ddim os oes gennych le eich hun a fyddai'n defnyddio gwres a goleuadau beth bynnag.

Proses Ymgeisio

Rhaid cyflwyno ceisiadau trwy'r ffurflen gais Gyda'n Gilydd dros Newid Cymru sydd ar gael yn

English  https://forms.office.com/e/x3geu5QAyW
Cymraeg https://forms.office.com/e/T5HyiVn5e9

Dim ond cyflwyno'r ffurflen gais ar-lein sydd angen i chi ei wneud.

Er mwyn i geisiadau fynd i'r cam nesaf o gael eu partneru â mentor academaidd i gynllunio'r fethodoleg ymchwil a chynllunio'r gyllideb yn fanwl, byddant yn cael eu hasesu ar y meini prawf canlynol:

  • Eglurder y syniad;
  • Effaith bosibl;
  • Maint y diddordeb cymunedol;
  • Dichonoldeb bod syniad y prosiect yn cael ei gyflawni o fewn yr amserlen;
  • Yn cyd-fynd â themâu LPIP/paru â mentor posibl.
  • Bydd ffurflenni a gyflwynir yn cael eu hadolygu a llunnir rhestr fer ar gyfer cyfweliadau ar-lein. Bydd 2-3 o gynrychiolwyr o'r sefydliadau ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i'r cyfweliad ar-lein.
  • Bydd panel dethol sy'n cynnwys pobl sydd â phrofiad o roi grantiau, dulliau ymchwil gweithredu, datblygu cymunedol, economïau gwledig, yn darllen yr holl geisiadau ac yn penderfynu pa rai sy'n ymddangos fwyaf tebygol o fod â phrosiect a fydd yn llwyddiannus o fewn yr amserlen Medi 2025 – Mehefin 2026, sydd â'r gallu i gyflawni'r prosiect a chynnwys y gymuned leol, yn cyd-fynd â phedair thema LPIP, a gellir eu paru’n hawdd â mentor academaidd o dîm LPIP sydd â sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol. 
  • Mae gan bob ymgeisydd nad yw wedi'i ddewis ar gyfer cyllid yr opsiwn i ymuno â rhwydwaith o ymchwilwyr gweithredu gyda chyfleoedd i ymuno â sesiynau hyfforddi ar-lein am ddim i'w cefnogi i gynnal eu hymchwil gweithredu eu hunain dan arweiniad y gymuned.

Na, unwaith y bydd cais wedi'i gyflwyno, ni ellir ei adolygu.

Byddwn yn eich hysbysu os nad ydych yn llwyddiannus. Byddwn yn rhoi adborth i'r sawl sy'n cael eu cyfweld ac nad ydynt yn llwyddiannus.

  • Enw Cyswllt
  • E-bost Cyswllt
  • Rhif Ffôn Cyswllt
  • Enw'r Sefydliad Cyfansoddiadol
  • A oes gan eich sefydliad neu eich grŵp cyfrif banc eu hun?
  • Cyfeiriad y sefydliad neu grŵp
  • Beth yw eich thema/syniad ymchwil a pham mae'n bwysig i'ch cymuned? Beth ydych chi'n meddwl allai effaith gwneud yr ymchwil fod? [hyd at 500 o eiriau]
  • Beth fyddai eich dull cyffredinol o fynd ati i wneud yr ymchwil? Pam ydych chi eisiau gwneud hynny? Gyda phwy fyddech chi'n gweithio yn eich cymuned a sut fyddech chi'n eu cynnwys. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu'r cynllun ymchwil yn fanwl ond am y tro hoffem ichi rannu eich syniadau hyd yn hyn. [hyd at 250 o eiriau]
  • Dywedwch wrthym yn gryno sut y byddech chi'n gwario'r arian ar eich syniad prosiect. Byddwn yn eich helpu i gynllunio'r gyllideb a'r amserlen fanwl derfynol, ond am y tro, hoffem ichi rannu eich syniadau cychwynnol. [hyd at 100 o eiriau]

Yn dilyn y dyfarniad a Chyflawni’r Prosiect

  • Dylai prosiectau ddechrau cyn gynted â phosibl ar ôl hysbysiad y dyfarniad.
  • Rhaid i bob prosiect gael ei gwblhau erbyn diwedd Mehefin 2026.

Mae’r cyllid yn cael ei dalu trwy Brifysgol Aberystwyth drwy anfonebu mewn amserlen dalu dair cam. Mae’r taliad cyntaf ymlaen llaw, yr ail daliad unwaith y bydd cynllun ymchwil y prosiect (gyda chefnogaeth gan y mentor academaidd penodedig) wedi'i gwblhau a'r trydydd taliad tuag at ddiwedd y prosiect.

Cymorth a Gwybodaeth Bellach

Bydd gweminarau gwybodaeth yn cael eu cynnal ddiwedd mis Mehefin i amlinellu amcanion y gronfa, y broses ymgeisio, a’r meini prawf. Rydym yn annog pobl i ymuno a gofyn cwestiynau yn y weminar. Bydd y rhain hefyd yn cael eu recordio ac ar gael i'w gwylio'n ôl trwy wefan Gyda’n Gilydd Dros Newid https://tfc.cymru/

Bydd y cyfarwyddiadau i ymuno â'r weminar ar gael ar y dudalen we hon ond os hoffech i'r cyfarwyddiadau ymuno gael eu hanfon atoch drwy e-bost, anfonwch gais at amy.nicholass@tfc.cymru.

Bydd y weminar hefyd yn cael ei recordio ac ar gael i'w gwylio'n ôl trwy wefan Gyda'n Gilydd dros Newid Cymru Wledig LPIP Rural Wales - Ymchwil Gweithredu a Arweinir gan y Gymuned 

Rydyn ni'n ei ddiffinio fel cymuned o le, felly mae hynny'n lleoliad. Efallai ei fod yn bentref neu dref, ond o fewn y lleoliad hwnnw bydd efallai cymuned o ddiddordeb. Mae'r cyllid LPIP yn ymwneud â Chymru wledig, felly mae'n ymwneud â lleoliad, felly dyna ni yn y bôn. Mae'n eithaf eang. Er enghraifft, mae un o'n cymunedau cam 1 yn Aber Dyfi, maen nhw'n ddwy gymuned o ddiddordeb. Mae un gymuned o ddiddordeb yn angerddol am wenoliaid, a'r llall yn angerddol am ansawdd dŵr. Ac mae ganddyn nhw eu sefydliadau gwirfoddol eu hunain, ac fe ddaethon nhw ynghyd gyda syniad y maent wedi cyflwyno i ni eu bod am wneud eu hymchwil arno. Felly dyna ddwy gymuned o ddiddordeb sydd wedi dod at ei gilydd mewn cymuned o le i gyflwyno syniad. 

Ydyn.

Ydy, os ydych chi'n gyngor cymuned o unrhyw fath, mae hynny'n iawn gyda'r ddarpariaeth eich bod chi'n dangos ei fod yn brosiect sy'n dod i fyny o'r gymuned. Er enghraifft, efallai y bydd cyngor cymuned gyda'u gwybodaeth o'r hyn maen nhw'n meddwl sydd ei angen ar y gymuned, ond hoffem gael tystiolaeth bod y syniad wedi dod o'r gymuned. Y peth allweddol yw y byddai angen cyfrif banc arnoch chi, y byddai cyngor cymuned yn tueddu i'w gael, ond yn hytrach na bod y cyngor cymuned oddi ar eu cefn eu hunain yn gwneud cais, gall wneud hynny, ond rydyn ni eisiau gweld y dystiolaeth bod y syniad wedi dod o rhywle arall. Efallai eich bod wedi gwneud rhywfaint o ymgynghoriad blaenorol, neu brosiect blaenorol sy'n dangos mewn gwirionedd mae hyn yn rhywbeth yr ydym am ei archwilio mwy neu gallech siarad â sefydliadau eraill sy'n o fewn y gymuned rydych chi'n ei gefnogi fel cyngor ac yn dweud 'beth yw bod gennych ddiddordeb ynddo? Mae gennym gyfle i wneud cais am hyn’ felly i wneud y math hwnnw o elfen estyn allan er mwyn gwneud cais am y grant hwn. Bod yn gynhwysol yw'r prif reswm am hyn.

Ydyn.

Ydy, y prif beth yw bod yr ymchwil yn digwydd o fewn y rhestr honno. Cyn belled nad yw'n digwydd y tu allan i'r rhestr honno.

Ydyn.

Ydyn.

Rydym yn gobeithio dechrau pobl ym mis Hydref ac rydym am iddo’r ymchwil gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mehefin. Ym mhrofiad cam 1 gall gymryd ychydig o amser i sefydlu pethau fel y tîm cynllunio, i ddod o hyd i'r ymchwilwyr, i ddarganfod pwy rydych chi am ddylanwadu ar lefel polisi ac i gasglu'r ymchwil a gwneud y dadansoddiad data a'i gyflwyno. Yn cofio eich bod gyda gwyliau Nadolig, Pasg, felly meddyliwch am y prosiect mewn tymor o wythnosau. Hefyd, bydd angen cynllunio timoedd cynllunio, ymchwil a chwilio am cydlynydd. Gallwch weld bod mewn gwirionedd, gall yr amser i wneud y dadansoddiad data hwnnw fod yn eithaf byr o fewn y cyfnod hwnnw.

Yn y bôn, mae'n gwneud penderfyniadau ar y cyd a chyllidebu cyfranogol. Gallwch wneud hynny mewn ffordd sy'n gweithio orau i'ch cymuned. Efallai y bydd angen i chi newid y gyllideb ynghylch sut i ddyrannu pethau, felly er bod gennym gyfle cychwynnol i unrhyw un sy'n ymwneud â'r prosiect sydd eisiau cymryd rhan yn y cyllidebu. Cyfle i lywio'r penderfyniadau hwnnw, bydd yr LPIP a Together for Change yn llofnodi ar yr hyn rydyn ni'n meddwl bod yn gyllideb resymol i'w chyflawni mewn cyfnod rhesymol o amser i synhwyro ei wirio gyda chi, yna mae'n ddogfen fyw. Os oes angen i chi ei newid trwy broses y grant, rydych chi'n dod yn ôl atom ac rydyn ni'n trafod os yw'n gwneud synnwyr, byddwn fel arfer yn eithaf agored i newid hynny.

Oes, o fewn y cymunedau hynny gallwch hefyd wneud cais.

Y 29ain o Awst, rydym wedi ceisio rhoi dyddiad cau cyhyd ag y gallwn roi, fel y dywedais o'r blaen, mae angen i ni roi digon o amser i bobl gynnal yr ymchwil oherwydd bod angen i'r LPIP i gyfan orffen erbyn Rhagfyr 2026, gan gynnwys yr holl werthusiad a lapio. Rydym yn deall y gallai fod gennych thema lefel uchaf. Yr hyn rydyn ni eisiau clywed gennych chi yw pwy sy'n cyfrannu at hynny fod yn broblem.

Yn anffodus, na. Nid ydym wedi cael gwybod unrhyw beth am y potensial i ymestyn Grant Ymchwil Arloesedd y DU ar gyfer yr LPIP eto. Os oes posibilrwydd, byddwn yn lledaenu'r newyddion trwy'r holl sianeli rydyn ni wedi lledaenu'r newyddion trwy'r amser hwn felly os ydych chi yma heddiw dylech ddarganfod.

Yn hollol, gallwch. Dim ond enghreifftiau oedd hynny o beth y gellid defnyddio'r gyllideb hyfforddi ar gyfer neu pa hyfforddiant y gallai fod ei angen arnoch. Mae'n hollol achos wrth achos.

Yn anffodus na, mae'n ei gwneud hi'n anodd gan ein bod yn ceisio bod mor deg â phosibl, a byddwn yn asesu'r ceisiadau hynny yn eithaf buan ar ôl y dyddiad cau fel y gallwch ddeall mae'n debyg, rydym yn ceisio ffitio i mewn gyda'r grŵp cynghorwyr a'r aseswyr sydd â gwyliau hefyd. Felly, os oes gennym drip feeds o dystiolaeth ar ôl y dyddiad cau ymgeisio, mae'n mynd i fod yn anodd iawn i ni gymharu gwahanol geisiadau felly rwy'n ofni ei fod yn na ar yr un hwnnw.

Gallech ddweud yn eich cais yw eich bod wedi ceisio eich gorau a'ch bod wedi rhoi pôl facebook hwn allan ac rydych chi'n aros i bobl ymateb ac nad ydych wedi cael digon o amser. Rhowch wybod i ni eich bod wedi ceisio gwneud hynny a estyn allan. Unrhyw beth rydych chi wedi ceisio ei wneud, ac nad yw wedi dod mewn pryd ar gyfer y dyddiad cau, gwnewch yn glir eich bod wedi gwneud hynny, ac efallai y gall hynny eich galluogi i fynd drwodd i'r cyfweliad. 

Rydym am i'ch cais ffitio o dan thema i wneud yn siŵr ei fod yn ffitio o fewn cylch gorchwyl y LPIP ond gall ddod o dan thema lluosog. Mae angen iddo alinio o dan un o'r thema i'w gwneud yn berthnasol i'r LPIP yn erbyn unrhyw grantiau eraill ond byddwn yn dychmygu bod cryn dipyn o'r heriau mewn ardaloedd gwledig yn disgyn o dan lawer o themâu.