Prosiect Newid Mwyaf Sylweddol Sir Benfro
Prosiect Newid Mwyaf Arwyddocaol Sir Benfro – Deall lles cymunedol drwy straeon newid

Mae Prosiect Newid Mwyaf Arwyddocaol (NMA) Sir Benfro yn rhan o Raglen Cryfhau Cymunedau'r sir. Nod y Prosiect yw dysgu, drwy straeon pobl, beth sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i les cymunedol.
Mae'r Prosiect yn canolbwyntio ar y mannau bob dydd lle mae bywyd cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus yn cwrdd. Drwy wrando ar y straeon hyn a myfyrio arnynt, gallwn ddeall yn well beth sydd bwysicaf i bobl. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y sectorau gwirfoddol, cymunedol a chyhoeddus i gasglu straeon ynghlych newid.
2024 – 2025: Mae gwerthusiad blwyddyn gyntaf y prosiect ar gael nawr:
Rydym hefyd wedi cynhyrchu amrywiaeth o ddeunyddiau i gefnogi'r gwaith hwn, gan gynnwys llawlyfr, templedi, a sleidiau hyfforddi.
Os hoffech ddysgu mwy neu gymryd rhan, cysylltwch â Karen Chandler ar karen.chandler@tfc.cymru.
Mae NMA yn Sir Benfro yn cael ei ariannu gan y Gronfa Integreiddio Ranbarthol.


